Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Ystyried penodi cynghorydd arbenigol
HSC(4)-33-12 – papur 4: 5 Rhagfyr 2012
Diben
1. Diben y papur hwn yw rhoi cyngor ar y posibilrwydd o benodi cynghorydd arbenigol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod ei waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 1.
Cefndir
2. Y sail dros benodi cynghorwyr yw’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 17.55, yw y ‘Caiff pwyllgorau benodi cynghorwyr yn unol â chanllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn er mwyn iddynt roi cyngor arbenigol’.
3. Rydym yn disgwyl y bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ar 28 Ionawr 2013. Gan y gallai’r Pwyllgor fod yn craffu ar dri Bil yn ystod tymor y gwanwyn, gallai fod yn ddefnyddiol i’r Pwyllgor drafod, yn gynnar yn y broses, a yw’n dymuno penodi cynghorydd arbenigol fel bod modd paratoi rhestr fer o ymgeiswyr addas a’i chyflwyno i’r Pwyllgor.
Trafodaeth
Rôl cynghorydd
4. Diben cyngor arbenigol
yw:
− ategu arbenigedd mewnol Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
− ychwanegu gwerth at ystyriaeth y Pwyllgor o unrhyw
bwnc penodol.
5. Gwneir hyn drwy ddarparu ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth, cyngor a gallu dadansoddol i bwyllgor gan barti allanol sydd â gwybodaeth arbenigol benodol a phrofedig am y pwnc y mae’r pwyllgor yn ei ystyried.
6. Fel y gŵyr Aelodau o ganlyniad i’r brîff ffeithiol a gafwyd ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol drafft ym mis Mai 2012, mae hwn yn Fil manwl iawn. Gallai fod yn ddefnyddiol i Aelodau gael papurau briffio ychwanegol ar bob un o’r prif feysydd yn y Bil ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer mathau o gwestiynau y gellid eu gofyn. Byddai’r papurau briffio hyn, wrth gwrs, yn ategu’r papurau a geir yn rheolaidd gan y Gwasanaeth Ymchwil.
7. Gallai’r cylch gorchwyl a awgrymir ar gyfer y cynghorydd gynnwys rhoi cyngor arbenigol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod ei waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 1. Gallai’r gwaith hwn gynnwys darparu’r canlynol i Glerc y Pwyllgor yn unol â dyddiadau cau y cytunwyd arnynt:
8. Mae’n debygol y bydd y Pwyllgor yn gweithio yn unol â therfynau amser tynn iawn ac, o ganlyniad, efallai y bydd yn rhaid i’r cynghorydd ysgrifennu dogfennau briffio ar fyr rybudd. Gallai fod disgwyl i’r cynghorydd fynychu rhai neu bob un o gyfarfodydd y Pwyllgor.
Camau nesaf
9. Os bydd y Pwyllgor yn cytuno i benodi cynghorydd, bydd y tîm Clercio yn paratoi papur â rhestr o gynghorwyr posibl er mwyn i’r Aelodau ei ystyried yn un o gyfarfodydd cyntaf tymor y gwanwyn.
Argymhelliad
10. Gofynnir i’r Pwyllgor gytuno:
¡ ynghylch a ydynt am benodi cynghorydd arbenigol ar gyfer ei waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 1;
¡ i nodi y bydd papur arall, sy’n cynnwys rhestr o dystion posibl, yn cael ei baratoi er mwyn ei ystyried yn un o’r cyfarfodydd cyntaf ym mis Ionawr 2013.
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Tachwedd 2012